Offerynnau Statudol sydd ag adroddiadau clir, a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn ddarostyngedig i graffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

4 Chwefror 2019

Cafodd yr offerynnau canlynol eu hystyried yn flaenorol i'w sifftio yn unol â Rheol Sefydlog 21.3B. Yn y broses sifft, cytunodd y Pwyllgor ym mhob achos mai'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau oedd y weithdrefn penderfyniad negyddol. Bellach mae'r offerynnau yn ddarostyngedig i graffu arferol yn unol â Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Er bod gan yr holl offerynnau adroddiadau clir, maent hefyd yn cynnwys pwynt o ran rhinweddau i amlygu'r broses sifftio:

Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn

SL(5)307 Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Y weithdrefn: Negyddol

Gwneir y rheoliadau hyn i arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn mynd i’r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r is-ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n gymwys o ran Cymru, ym meysydd cofnodi, adnabod a symud da byw.

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007;

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011; a

 

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 14 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 21 Ionawr 2019

Fe’u gosodwyd ar: 24Ionawr 2019

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2

SL(5)308 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Y weithdrefn: Negyddol

Bydd yr offeryn yn rhoi sylw i fethiannau o ran deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn sicrhau y bydd rheolaethau ar Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy yn parhau i weithredu pan fyddwn wedi ymadael â’r UE i ddiogelu iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd.

Mae rheolau’r UE ar gyfer rheoli Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid o leiaf cystal â, ac mewn rhai achosion yn well na’r safonau rhyngwladol a osodwyd gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (Office International des Epizooties - OIE). Er na fydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar y DU i ymlynu â rheolau’r UE o ran rheoli Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ar ôl ymadael â’r UE, o ganlyniad i’r hanes am yr epidemig Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) yn Ewrop (yn enwedig o fewn y DU yn yr 1980/ 90au), bydd trydydd wledydd yn disgwyl i’r DU o leiaf efelychu prif reolaethau’r UE, er bod y rhain yn mynd y tu hwnt i safonau diogelu OIE.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 14 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 21 Ionawr 2019

Fe’u gosodwyd ar: 24 Ionawr 2019

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2

SL(5)309 – Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Y weithdrefn: Negyddol

Mae’r offeryn hwn yn dileu cyfeiriadau at Aelodau o Senedd Ewrop, Senedd Ewrop ac etholiadau i Senedd Ewrop na fyddant eu hangen wedi’r dyddiad ymadael.  Ni wneir unrhyw ddarpariaeth yn eu lle.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 7 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2019

Fe’u gosodwyd ar: 28 Ionawr 2019

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

SL(5)311 – Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Y weithdrefn: Negyddol

Mae’r offeryn hwn yn diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 trwy ddileu cyfeiriad at Swyddfa Gyhoeddi’r Undeb Ewropeaidd a rhoddi yn ei le gyfeiriad at drefn e-hysbysu y DU.  Bydd y cyfeiriad hwnnw yn un at ddiffiniad sydd i’w fewnosod yn rheoliad 5 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan reoliad 5 o Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019.  Cafodd drafft o’r Rheoliadau hynny eu gosod mewn drafft gerbron Senedd y DU.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 21 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2019

Fe’u gosodwyd ar: 28 Ionawr 2019

Yn dod i rym ar: Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1